Please log in or register. Registered visitors get fewer ads.
Forum index | Previous Thread | Next thread
Cymru v Serbia 06:52 - Sep 10 with 6773 viewsgiantstoneater

Mynd lan i Caerdydd heno gyda`r fachgen dwy eisiau gweld perfformiad sydd yn rhoi obaith i`r dyfodol. Rwy`n teimlo fod Cookie dim y ddyn i fi ond pwy sy`n mas na. Mae`r hyder a ddangosodd y tim dan Speed wedi diflanu ac mae calonau ni eisiau codi ond falle fod pethau yn mynd i gwaethygu cyn fod yn well.
0
Cymru v Serbia on 10:06 - Sep 10 with 6750 viewsJack_y_Jwc

Fi’n mynd heno hefyd, fi hefyd wedi trefnu i fynd i Belgium mis nesaf, yn fwy am y 2 ddiwrnod ar y pi55 yn hytrach i'r pêl-droed achos sdim siawns ni’n mynd i gael unrhyw beth mas ‘na.

Roedd nos Wener wedi profi i fi nad oes unrhyw dawn yn y tîm hwn, hyd yn oed gyda Bale a Ramsey ni’n edrych yn gyfyng yng nghanol y cae, mae angen i ni ychwanegu rhywfaint o greadigrwydd. Y broblem fwyaf yw y diffyg ymosodwr, sef y pryder mwyaf gan nad yw'n edrych fel bod un yn dod trwy'r ranks chwaith.

Mae angen i ni ailstrwythuro pêl-droed Cymru yn gyfan-gwbwl, gan ddechrau gyda'r deinosoriaid yn yr FAW. Edrych nol, roedd hyfforddi Coleman yn gamgymeriad. Ma Raymond yn boncyrs, ond fi nawr yn credu hwn oedd yr opsiwn gorau. But in true FAW style, o nhw’n gwybod byddai fe wedi bod yn waith caled a dewis mynd am yr opsiwn rhwydd a rhad.

0

0
Cymru v Serbia (n/t) on 15:45 - Sep 10 with 6721 viewsJacksawayatWalesgame

Gwir bob gair. Ar y ffordd i gaerdydd ar y tren nawr. Amser i gredu? Sai'n meddwl.
[Post edited 10 Sep 2013 15:48]
0
Cymru v Serbia on 19:16 - Sep 10 with 6703 viewsCymraes

Dw i hefyd in cytuno. Oes ddim 'CV' da iawn gan Coleman fel rheolwr nag fel chwareywr.

Beth oedd yn bod a Brian Flynn? Oes rhaid iddo nhw fod yn Gymraeg? Oes da ni ddim rheolwyr da Cymraeg - ni wedi gweld Mark Hughes yn methu, ac oes da fi ddim stymog am Pulis!

'Chancer' you Coleman yn fy mharn i - mae e'n cael ei dalu yn dda am wneud fawr i ddim ag yn hoffi'r limelight yn y cyfrynghau maes draw - lawer ormod!

Yn drienu mawr ei fod yn aros.
0
Cymru v Serbia on 16:08 - Sep 13 with 6604 viewstreboethjack

Dw'i wastod wedi cefnogi Coleman nes yr wythnos ma, dw'i wedi newid fy meddwl nawr a'r unig ffordd bod ni mynd i gwella nawr yw trwy dod a rhywun tramor mewn i rheolir tim. falle rhywin fel poyet? Dim ond syniad on fydd rhywun fel na yn gwell i fi.

Tim gorau Cymru ers 1912

0
Cymru v Serbia on 20:26 - Sep 13 with 6588 viewsCymraes

Am ryw reswm mae Joe Allen yn ei gefnogi yn cyhoeuddus - dw I ddim yn deall pam. Efallae achos fod Coleman yn fodlon iddo beidio chwarae? Neu achos fod Allen ddim yn dod mlaen a Verheijen?

Ta beth, felti - fe hoffen I weld Coleman yn mynd.
0
About Us Contact Us Terms & Conditions Privacy Cookies Advertising
© FansNetwork 2024