Please log in or register. Registered visitors get fewer ads.
Forum index | Previous Thread | Next thread
Petrolul Ploiesti 09:37 - Aug 22 with 4398 viewshuwjacbastad


Edrych ymlaen yn arw at y gem heno, piti na fydd y Liberty yn llawn ond gobeithio fydd yr awyrgylch yn well gan fod rhan fwyaf or torf yn cefnogwyr selog.

Pwysig cael canlyniad heno i osgoi noson tanllyd draw yn Riwmania.
0
Petrolul Ploiesti on 10:34 - Aug 22 with 4385 viewsJacksawayatWalesgame

Ydyn nhw'n disgwyl dyrfa llai nag oedd yn y gem yn erbyn Malmo ? Os hynny, pam ?
0
Petrolul Ploiesti on 12:17 - Aug 22 with 4374 viewshuwjacbastad

Petrolul Ploiesti on 10:34 - Aug 22 by JacksawayatWalesgame

Ydyn nhw'n disgwyl dyrfa llai nag oedd yn y gem yn erbyn Malmo ? Os hynny, pam ?


Yn ol y son, ond gobeithio fydd llawer yn troi fyny ar y funud olaf.

Pris y tocynnau yn llai na Malmo, tywydd yn dda a gwyliau ysgol felly heblaw ITV4 dim esgus!
0
Petrolul Ploiesti on 13:55 - Aug 22 with 4357 viewstreboethjack

Dwi'n mynd lawr gyda ffrind, methu aros i dweud y gwir ond mae rhaid i mi cytuno am yr dorf, mae'n siom fod mwy o bobl ddim yn mynd i cael gweld ni'n chwarae yn ewrop!

Tim gorau Cymru ers 1912

0
Petrolul Ploiesti on 08:56 - Aug 23 with 4311 viewshuwjacbastad

Noson fendigedig neithiwr, ac uffern o gol gan Ploiesti ar y diwedd.

Mae'n braf gweld y timau wahanol 'ma ar y Liberty a chware teg i Ploiesti roedd ganddynt digon o hyder i ymosod a neud gem ohonni.

Gorfod chwerthin ar Bony yn ceisio nodi y gol pan dangosir ar y teledu fod o heb twtsiad y bel o gwbl!!

Meddwl fydd rhaid i na fod uffern o gwymp i beidio cyrraedd y grwpiau nawr felly edrych ymlaen yn arw at y saith gem nesaf.
[Post edited 23 Aug 2013 9:56]
0
Petrolul Ploiesti on 20:12 - Aug 24 with 4271 viewsJacksawayatWalesgame

Dwi'n meddwl ddyle Abertawe canolbwynto tymor yma ar y cwpan hwn (Europa) a'r Premiership, a rhoi timau gwan mas yn rowndiau cynnar yr "FA Cup" a'r "League Cup", neu fydd yna ormod o gemau. Hynny yw, ddyle ni aberthu'r FA Cup a'r League Cup, jyst i safio coesai'r bois.
[Post edited 24 Aug 2013 20:13]
0
Petrolul Ploiesti on 11:48 - Aug 25 with 4237 viewstreboethjack

Mae rhaid i mi cytuno, sai'n siwr pa cwpan dyle ni canolbwyntio ar, ond pigo un a ffocysu ar hwna!

Tim gorau Cymru ers 1912

0
About Us Contact Us Terms & Conditions Privacy Cookies Advertising
© FansNetwork 2024